Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

ST 05

Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi

Tystiolaeth gan :  Prifathro  – Uwchradd

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1 - Beth yw eich barn ar ba mor gyffredin yw'r defnydd o athrawon cyflenwi, wedi'i gynllunio a heb ei gynllunio?

 

Mae defnydd o athrawon cyflenwi yn gyffredin iawn a phob ysgol yn defnyddio athrawon o’r fath bron yn ddyddiol dybiwn i.  Os yw athrawon ar gwrs yna mae’r defnydd wrth gwrs wedi’i gynllunio ond gyda salwch, galwadau boreol sy’n gyffredin.

 

Os ydych o'r farn bod hyn yn arwain at broblemau (er enghraifft, ar gyfer ysgolion, disgyblion neu athrawon), sut y gellir eu datrys?

 

Os yw’r ysgol yn defnyddio athrawon cyflenwi yn ddoeth yna nid yw hynny’n broblem.  Nid ydym ni, fel arfer yn defnyddio asiantaethau cyflenwi ond yn hytrach yn defnyddio’r un athrawon cyflenwi drwy’r amser.  Mae gennym restr bersonol rydym ni’n defnyddio o ddydd i ddydd.  Mae’r rhain naill ai wedi bod yn fyfyrwyr gyda ni, wedi ymddeol o ddysgu gyda ni yn yr ysgol neu wedi dod gyda enw da o ysgol arall.  Yn ychwanegol mae gennym dau oruchwyliwr gwersi sy’n edrych ar ol gwersi yn ddyddiol.

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§    ̷

4 - Nid yw'n broblem.

§     


 

Cwestiwn 2 - Beth yw eich barn ar yr amgylchiadau pan ddefnyddir athrawon cyflenwi? Er enghraifft: y math o ddosbarthiadau maent yn dysgu; y math o weithgareddau dysgu sy'n digwydd dan oruchwyliaeth athrawon cyflenwi; a ydynt yn gymwys i addysgu pynciau perthnasol.

 

Nid ydym yn poeni am hyn yn ein hysgol.  Defnyddir ein goruchwylwyr gwersi yn y lle cyntaf i edrych ar ol y pynciau maent hwy yn arbenigo ynddo.  Rydym ni’n ceisio defnyddio’r athrawon mewn ffordd effeithiol e.e. os oes salwch ieithydd rydym yn cyflogi athrawes gyflenwi a fu’n gyn-athrawes Ffrangeg a Saesneg.  Defnyddir cyn-athro Chwaraeon pan fo absenoldeb Chwaraeon a chyn athro DT pan fo problemau o ran pynciau megis celfi coed, DT, adeiladwaith.  Rydym felly yn addasu yn ol y galw.  Os yw athro bant ar gwrs yna cyfrifoldeb yr athro hynny yw gosod gwaith o flaen llaw i’r dosbarth – rhoddir y gwaith hwnnw i’r dirprwy neu i’r Pennaeth Adran perthnasol.  Os oes salwch disgwylir bod gwaith yn cael ei osod ar gyfer yr ail ddiwrnod o salwch.  Gyda chynllunio pendant, nid yw’n broblem. Rydym ni hefyd yn achlysurol yn arsylwi ein hathrawon cyflenwi er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’r swydd.

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

Mae’n bosibl datrys y problemau trwy ddilyn y strategaethau uchod.

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§    ̷

4 - Nid yw'n broblem.

§     


 

Cwestiwn 3 - Beth yw eich barn ar effaith y defnydd o athrawon cyflenwi ar ganlyniadau disgyblion (gan gynnwys unrhyw effaith ar ymddygiad disgyblion)?

 

Nid wyf o’r farn bod defnydd o athrawon cyflenwi, os yn briodol yn effeithio ar ganlyniadau disgyblion.  Mae’n rheidrwydd ar yr ysgol i sicrhau hefyd nad yw’n effeithio ar ymddygiad disgyblion.  Rhaid cadw golwg fanwl ar y staff er mwyn sicrhau nad yw cyflenwi yn broblem.

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

Eto, trwy gadw llygad gofalus, nid oes problem.  Rhaid cynllunio ymlaen llaw a sicrhau bod gwaith priodol yn cael ei adael i’r disgyblion.  Os oes athro cyflenwi mewn ysgol am gyfnod hir o salwch yna rhaid sicrhau safonau priodol.  Digwydd hyn trwy arsylwi a chynnig cefnogaeth berthnasol.

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

4 - Nid yw'n broblem.

§    ̷

Cwestiwn 4 - Beth yw eich barn ar Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus athrawon cyflenwi ac effaith bosibl y Model Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol?

 

Mae’n bwysig iawn bod athrawon cyflenwi yn cael cyfle i gael datblygiad proffesiynol parhaus.  Rydym yn sicrhau eu bod yn cael cyfle i fynychu unrhyw gyrsiau sy’n cael eu cynnal yn yr ysgol ac hefyd rydym yn eu harsylwi yn achlysurol.

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

Angen trin yr athrawon cyflenwi fel aelod o staff yr ysgol.

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

4 - Nid yw'n broblem.

̷

Cwestiwn 5 - Beth yw eich barn ar drefniadau rheoli perfformiad ar gyfer athrawon cyflenwi?

 

Nid wyf yn gweld unrhyw broblem gyda rheoli perfformiad athrawon cyflenwi.  Rhydd hyn gyfle iddynt ddatblygu’n broffesiynol.

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

Gall hyn fod yn broblem os yw athro yn gweithio mewn sawl ysgol.  Angen i’r arweiniad ddod o’r athro ei hun.

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§    ̷

4 - Nid yw'n broblem.

§     


 

Cwestiwn 6 - A ydych o'r farn bod gan awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol ddigon o oruchwyliaeth dros y defnydd o athrawon cyflenwi?

 

Nac oes yn sicr.  Mae llawer o athrawon cyflenwi gan asiantaethau sydd ddim yn addas ar gyfer y swydd.  Mae hon yn broblem gyda ysgolion Cymraeg yn arbennig.  Er enghraifft, bu’n rhaid i ni fynd at asiantaeth i gael gwyddonydd yn ddiweddar ond er bod yr asiantaeth yn dweud bod y gwyddonydd yn siarad Cymraeg nid oedd safon ei Gymraeg yn addas i’r ysgol.  Nid oes gan gonsortia rhanbarthol nac awdurdodau lleol unrhyw gynlluniau i oruchwylio ar hyn o bryd. 

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

Yn sicr mae problemau yn y maes.  Angen i’r awdurdod lleol a’r consortia rhanbarthol i sicrhau eu bod yn cadw llygad gofalus ar yr asiantaethau a’r staff sy’n gweithio o fewn y cwmniau.  Mae’r arian a wneir ar gefn yr athrawon gan yr asiantaethau hefyd yn warth. 

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§    ̷

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

4 - Nid yw'n broblem.

§     

Cwestiwn 7 - A ydych yn ymwybodol o unrhyw amrywiaeth leol a rhanbarthol yn y defnydd o athrawon cyflenwi? Os felly, a oes rhesymau am hynny?

 

Nac ydwyf

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

4 - Nid yw'n broblem.

§     

Cwestiwn 8 - A oes gennych unrhyw farn ar asiantaethau cyflenwi a'u trefniadau sicrhau ansawdd?

 

Yn sicr nid wyf yn teimlo bod asiantaethau cyflenwi yn sicrhau ansawdd y staff yn eu gofal.  Er nad ydym yn defnyddio asiantaethau yn aml, o’r profiad sydd gennym nid wyf erioed wedi gweld neb o asiantaeth yn dod i ymweld gyda aelod o staff yn yr ysgol.  Teimlaf hefyd, fel y nodwyd gennyf eisoes bod y ffordd mae’r asiantaethau yn manteisio ar y staff yn warthus.  Mae’r cytundebau yn aml yn anheg a llawer o athrawon ddim yn sylweddoli beth sydd yn y print man o ran eu rhyddhau o’r ‘cytundebau.’

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

Eto, angen bod yr asiantaethau yn decach gyda’r staff.  Angen iddynt sicrhau eu bod yn sicrhau ansawdd drwy arsylwi a rheoli perfformiad y staff hynny. 

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§    ̷

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

4 - Nid yw'n broblem.

§     


 

Cwestiwn 9 - A ydych yn ymwybodol o unrhyw faterion penodol yn ymwneud ag addysg cyfrwng Cymraeg? Os felly, beth ydynt?

 

 

Eto, fel y nodwyd gennyf eisoes, mae darganfod pobl i addysgu cyfrwng Cymraeg yn broblem.  O’n profiad ni o ddefnyddio asiantaeth, prin iawn yw’r siaradwyr Cymraeg addas ar ein cyfer.  Er eu bod yn cael eu nodi fel ‘siaradwyr Cymraeg’ nid yw eu Cymraeg llafar ac yn sicr eu hiaith ysgrifenedig yn ddigonol i weithio mewn ysgol cyfrwng Cymraeg.  Nid yw llawer ohonynt chwaith wedi dysgu’r pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg o’r blaen. 

 

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

 

Anodd iawn yw datrys gan bod prinder athrawon mewn sawl maes perthnasol.

 

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

 

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§    ̷

 

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

 

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

 

4 - Nid yw'n broblem.

§     

 

Cwestiwn 10 - Os byddai'n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r holl bwyntiau rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad hwnnw?

 

Bod angen sicrhau bod asiantaethau yn atebol i’r awdurdod lleol a bod sicrhau ansawdd yn digwydd.

Cwestiwn 11 - A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd amdanynt yn y cwestiynau penodol?

 

Nac oes.